Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Cwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi datgan rhybudd du neithiwr?
Cwestiwn i Weinidog yr Economi
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol?
4 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor
NNDM7978 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru);
2. Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a
3. Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio
(60 munud)
NDM7970 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’, a osodwyd ar 28 Ionawr 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mawrth 2022.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cefnogi fferyllwyr
(60 munud)
NDM7971 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae fferyllwyr wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, yn ogystal â'u rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi gofal sylfaenol ac eilaidd.
2. Yn croesawu'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Clinigol Cenedlaethol newydd sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2022.
3. Yn pryderu am ganlyniadau Arolwg Lles Gweithlu 2021 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, sy'n dangos bod naw o bob 10 ymatebydd mewn perygl mawr o gael eu gorweithio a bod un o bob tri wedi ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lleihau biwrocratiaeth ar frys drwy gyflwyno e-bresgripsiynau a darparu mynediad at gofnodion meddygol;
b) sicrhau amser dysgu pwrpasol wedi'i ddiogelu o fewn oriau gwaith ar gyfer lles ac astudio;
c) buddsoddi yn y gweithlu fferyllol i hyfforddi mwy o staff fferylliaeth ac uwchsgilio staff presennol.
7 Dadl Plaid Cymru - Tomenni risg uchel
(60 munud)
NDM7972 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y gwyddys bod mwy na 300 o domenni wedi'u dosbarthu yn rhai risg uchel, a gallai'r glaw cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ansefydlogi tomenni ymhellach ar draws y cymoedd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod tomenni risg uchel yn cael eu gwneud yn ddiogel drwy:
a) gofyn i awdurdodau lleol ryddhau gwybodaeth am ble mae tomenni risg uchel wedi'u lleoli;
b) mynnu bod Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ail-lunio, adennill ac adfer tomenni;
c) gosod systemau rhybuddio cynnar lle bynnag y bo modd;
d) adfer y grant adfer tir i helpu i ddelio â risgiau ar domenni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu cenedlaethol i helpu i adfywio'r ardaloedd o amgylch y tomenni.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod diogelwch tomenni glo yn gymhwysedd datganoledig.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi gwybodaeth am union leoliadau tomenni risg uchel;
b) gosod systemau rhybuddio cynnar ar gyfer tomenni risg uchel, lle bo hynny'n bosibl;
c) creu awdurdod goruchwylio tomenni glo newydd i sefydlu cyfundrefn ddiogelwch newydd, cynnal asesiadau risg a chynlluniau rheoli tomenni;
d) ffurfioli cytundebau rhwng perchnogion, defnyddwyr tir a'r awdurdod goruchwylio tomenni glo i weithredu mewn argyfwng.
Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn cyfrannu at y dull o reoli tomenni glo yn y dyfodol a’u hadfer, gan elwa i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi, cynnig hyfforddiant, uwchsgilio a sicrhau manteision ehangach.
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7969 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2022